Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
24 Ionawr 2022
SL(6)127 – Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu yn y Cwricwlwm i Gymru) 2022
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ("y Ddeddf") yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru. Mae adran 56 y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud Rheoliadau ynghylch trefniadau asesu.
Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i—
(a) ysgolion a gynhelir,
(b) ysgolion meithrin a gynhelir,
(c) darparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,
(d) unedau cyfeirio disgyblion, ac
(e) person sy’n trefnu neu sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn, ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, (yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996)
Mae rheoliad 1 yn darparu ar gyfer cychwyn y Rheoliadau hyn fesul grwpiau blwyddyn. Bydd hyn yn adlewyrchu'r bwriad i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ("y Cwricwlwm") a fydd hefyd yn cael ei gyflwyno'n raddol dros gyfnod o amser fesul grwpiau blwyddyn.
Bydd y Cwricwlwm a'r Rheoliadau hyn yn dod yn orfodol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn—
(a) ar 1 Medi 2022 ar gyfer—
(i) plant sy’n cael addysg feithrin,
(ii) disgyblion yn eu blwyddyn dderbyn,
(iii) disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6,
(b) ar 1 Medi 2022 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgolion a lleoliadau eraill lle mae cwricwlwm wedi'i fabwysiadu neu ei ddarparu fel arall yn unol â'r Ddeddf,
(c) ar 1 Medi 2023 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 nad ydynt o fewn paragraff (b),
(d) ar 1 Medi 2023 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 8,
(e) ar 1 Medi 2024 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9,
(f) ar 1 Medi 2025 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10,
(g) ar 1 Medi 2026 ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11,
Asesiadau parhaus
Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau penodedig (er enghraifft, penaethiaid) wneud trefniadau ar gyfer asesu pob disgybl yn barhaus drwy gydol y flwyddyn ysgol gan ymarferydd (h.y. gan berson sy'n darparu addysgu a dysgu mewn perthynas â'r cwricwlwm perthnasol). Diben y trefniadau asesu yw asesu, mewn perthynas â'r cwricwlwm perthnasol—
(a) y cynnydd a wneir gan ddisgyblion a phlant;
(b) y camau nesaf yn eu cynnydd; ac
(c) yr addysgu a’r dysgu sydd ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.
Rhaid i’r trefniadau asesu fod yn addas i ddisgyblion a phlant o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol.
Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r trefniadau asesu gael eu hadolygu, a'u diwygio o dan amgylchiadau penodedig.
Asesiadau ar-fynediad
Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau penodedig (er enghraifft, penaethiaid) wneud trefniadau ar gyfer asesu disgyblion a phlant. Diben y trefniadau asesu yw asesu, mewn perthynas â'r cwricwlwm perthnasol, galluoedd a doniau disgyblion a phlant er mwyn penderfynu ar—
(a) y camau nesaf yn eu cynnydd, a
(b) yr addysgu a dysgu sydd ei angen i wneud y cynnydd hwnnw.
Rhaid i’r trefniadau asesu—
(a) fod yn addas i ddisgyblion a phlant o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol; a
(b) cynnwys trefniadau ar gyfer asesu—
(i) sgiliau rhifedd a llythrennedd disgyblion a phlant, a
(ii) datblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol disgyblion a phlant.
At hynny, rhaid i'r trefniadau asesu ddigwydd o fewn amser penodedig. Er enghraifft, o ran addysg feithrin, rhaid iddynt ddigwydd o fewn 6 wythnos i’r tro cyntaf y caiff y plentyn neu'r disgybl addysg feithrin. Ac ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 1 mewn ysgol a gynhelir, rhaid iddynt ddigwydd o fewn 6 wythnos ar ôl i'r disgybl ddechrau blwyddyn 1.
Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r trefniadau asesu gael eu hadolygu, a'u diwygio o dan amgylchiadau penodedig.
Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyhoeddi trefniadau asesu
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi trefniadau asesu y gellir eu mabwysiadu gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir. Ac mae Rheoliad 10 yn darparu ar gyfer adolygu a diwygio'r trefniadau asesu cyhoeddedig.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021
Fe’u gwnaed ar: 07 Ionawr 2022
Fe’u gosodwyd ar: 11 Ionawr 2022
Yn dod i rym ar: yn unol â rheoliad 1(2) i (6)